12/05/2013

Cefnogwch a Dilynwch Gŵyl Nôl a Mla'n

Cynhelir yr ŵyl yn 2013 ar Nos Wener Mehefin 7fed a Dydd Sadwrn Mehefin 8fed ac unwaith eto eleni mae'r ŵyl yn rhad ac am ddim! Gallwch helpu ni i ledaenu'r neges trwy ein dilyn ar Twitter (ac aildrydar plis) a Hoffi ein tudalen Facebook (a rhannu'r dudalen). Dewch i Langrannog i fwynhau, fel y gwnaeth y criw yma flwyddyn diwethaf!



09/05/2013

Cowbois Rhos Botwnnog

Gallwn gadarnhau y bydd COWBOIS RHOS BOTWNNOG, un o fandiau byw mwyaf poblogaidd Cymru, yn chwarae yn Gŵyl Nôl a Ml'an Llangrannog eleni! Mwy o wybodaeth i ddilyn. Cofiwch y dyddiad,
7/8fed o Fehefin 2013. Gallwn addo na fydd glaw (wel gobeithio!)

01/05/2013

Y Bandana

Band arall bydd yn sefyll nid wrth y tan ond ar lwyfan GNAM ar ddydd Sadwrn yr 8fed bydd Y BANDANA

Fflur Dafydd

A dyma reswm pam i ddod i Langrannog am y penwythnos cyfan yn mis Mehefin, yn cloi y nos Wener bydd yr amryddawn Fflur Dafydd http://www.fflurdafydd.com/

Mynediad am ddim i weld Mynediad am Ddim!

Felly gyfeillion, dyma ichi'r newyddion anhygoel y bydd y siwpyrband MYNEDIAD AM DDIM yn perfformio yn yr unig wyl AM DDIM ar yr 8fed o Fehefin. http://www.mynediadamddim.com