03/06/2014

Manylion am Fandiau Nos Sadwrn Gwyl Nol a Mlan 2014!

H a’r Band 

Ffurfiwyd 'H' a'r Band ddwy flynedd yn ôl gan Cleif Harpwood, prif-leisydd Edward H Dafis, un o fandiau amlwg y 1970au yng Nghymru. Cytunodd tri arall o'r band eiconig hwnnw, Hefin Elis, Charli Britton a John Griffiths ddod ato i berfformio caneuon poblogaidd y band i gynulleidfaoedd ar draws Cymru unwaith yn rhagor. Felly mae pedwar rhan o bump o Edward H yma i'ch diddanu heddiw, ac yn ogystal â hyn pedwar o aelodau eraill, yn gerddorion medrus a chyfarwydd; Elain a Ffion Llwyd, Mirain Haf a'r gitarydd Wyn Pearson. Dyma 'H' a'r Band. Mi fydd 'H' yn cyflwyno caneuon mwyaf adnabyddus Edward H, Ac Eraill, ynghyd â chyfansoddiadau poblogaidd gan Cleif H ei hun, a hefyd detholiad o ganeuon yr opera roc 'Nia Ben Aur' sy'n dathlu deugain mlynedd eleni. Mae gan Cleif H gysylltiad agos iawn â Llangrannog fel aelod o staff haf gwersyll yr Urdd ym mlynyddoedd cynnar y 1970au. Bu Bae Ceredigion ac Ynys Lochtyn yn gynfas i ganeuon fel Nia Ben Aur, Cân yn Ofer ac Ysbryd y nos. Anrhydedd o'r mwyaf bydd perfformio'r caneuon hyn yn ôl yn eu cynefin. Mwynhewch flas o ganeuon y chwyldro yng nghwmni 'H' a'r Band.


Brython Shag

O lwch hen fandiau Stiniog, ffurfiwyd un newydd... a ma hein yn mynd i godi'r to, o ddifri mo!” Mae Brython Shag yn bedwarawd o Flaenau Ffestiniog. Aelodau’r band yw Ceri C, y prif-leisydd, Deian Rhys Jones yn chwarae’r gitar fas, Gai Toms ar y gitar a Jason Hughes yn chwarae’r drymiau. Maent yn chwarae cerddoriaeth roc-amgen ac yn disgrifio eu dylanwadau fel unrhyw cerddoriaeth dda!

Hwntws

Mae’r Hwntws yn fand o ardal Glyn Ebwy, gwnaeth cymryd eu henw o’r gair Gogleddol am bobl y De. Maent yn canu nifer o ganeuon traddodiadol o’r ardal o le maen nhw’n dod, ac mae’r parch sydd ganddynt at ddilysrwydd ieithyddol yn golygu eu bod nhw wedi atgyfodi y tafodiaith rhanbarthol cafodd ei ddefnyddio’n wreiddiol wrth ganu’r caneuon yma – Gwenhwyseg.


Kizzy Crawford

Dechreuodd Kizzy Meriel Crawford, sy’n 17 mlwydd oed, ei gyrfa solo dim ond dwy flynedd yn ôl. Ers hynny, mae'r siaradwraig Cymraeg gyda gwreiddiau Bajan, wedi datblygu steil cyfansoddi soffistigedig sy’n ategu at ei llais llawn ystod a charisma. Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog ac mae hi eisoes yn cael cydnabyddiaeth gyda'i cherddoriaeth yn cael ei chwarae ar BBC Radio Wales a Radio Cymru yn aml yn ogystal â perfformio’n fyw ar S4C.


Mellt

Band o bedwar o Aberystwyth yw Mellt; Glyn, Ellis, Gethin a Geraint. Buont yn canu o dan yr enw Gwirfoddolwyr, ond ymddangosant fel Mellt am y tro cytnaf yn Gig Hanner Cant. Eu dylanwadau yw The Smiths, The Clash a The Replacements i enwi ond ychydig.

Cor y Wiber

Mae Côr y Wiber yn gôr merched ifanc a bywiog o Gastell Newydd Emlyn. Dewiswyd yr enw oherwydd hanes Gwiber Emlyn, sef y ddraig/wiber a ymosododd ar Gastell Newydd Emlyn.
Ers ei sefydlu yn 2010, mae’r côr wedi mynd o nerth i nerth dan arweiniad Angharad Thomas, gan ennill nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Côr Cymru yn 2013. Yn ogystal â hynny mae’r côr wedi perfformio mewn nifer o nosweithiau anffurfiol a digwyddiadau lleol, ac maent i’w clywed yn canu lleisiau cefndir ar gryno ddisg diweddaraf Fflur Dafydd.

No comments:

Post a Comment